Neuadd Newydd
Er mwyn i rai sydd â diddordeb mewn defnyddio’r adeilad mae’n werth rhoi braslun o’r adnoddau fydd ar gael. Gobeithio y bydd galw mawr am logi ystafelloedd.
Mae ystafell fechan ar gyfer pwyllgorau neu gyrsiau hyfforddi, digon o le i tua 16. Yn yr ystafell yma mae teledu a chysylltiadau i’r rhyngrwyd. Adnabyddir yr ystafell yma fel Moelfre.
Mae’r brif neuadd fel arfer yn cael ei rhannu. Un rhan wedi ei neilltuo i’r Ysgol Feithrin a’r rhan arall at ddefnydd cyffredinol ond gellir agor y rhaniad fel bod modd defnyddio’r neuadd i gyd ar gyfer gweithgareddau pan fo angen. Adnabyddir yr ystafelloedd yma fel Rhinog Fach a Rhinog Fawr. Gall 64 o bobl wledda neu 72 eistedd mewn cyngerdd yn Rhinog Fawr. Os defnyddir y neuadd fel un ystafell gall 100 wledda neu 120 fod mewn cyngerdd. Mae cysylltiad i’r rhyngrwyd yn y ddwy ran gyda theledu yn rhan yr Ysgol Feithrin a thaflunydd yn y rhan arall fydd yn galluogi dangos lluniau teledu neu wybodaeth sydd ar sgrin cyfrifiadur ar sgrin fawr.
Mae cegin gyda phopty, hob, microdon, oergell, peiriant golchi llestri a boeler ddŵr.
Ystafell Rhinog Fawr |
|||||
Mudiadau a Gweithgareddau Cymunedol |
Masnachol / Personol |
||||
Dwy Awr |
Dwy Awr Rheolaidd |
Pedair Awr |
Pedair Awr Rheolaidd |
Dwy Awr |
Pedair Awr |
12.00 |
10.00 |
20.00 |
15.00 |
15.00. |
25.00 |
|
|
|
|
|
|
Yn cynnwys defnydd o gegin, teledu / projector a chysylltiad i’r We |
Ystafell Moelfre |
|||||
Mudiadau a Gweithgareddau Cymunedol |
Masnachol / Personol |
||||
Dwy Awr |
Dwy Awr Rheolaidd |
Pedair Awr |
Pedair Awr Rheolaidd |
Dwy Awr |
Pedair Awr |
10.00 |
8.00 |
15.00 |
12.00 |
15.00 |
25.00 |
|
|
|
|
|
|
Yn cynnwys defnydd o gegin, teledu / projector a chysylltiad i’r We
|
Cysylltwch â'r swyddogion isod am fanylion pellach :
Cadeirydd
Eirwyn Thomas 01341 241301
Ysgrifenyddes
Helen Johns 01341 241617
Trysorydd
Iolyn Jones 01341 241391
Ar gyfer hurio'r neuadd cysylltwch â'r Cadeirydd neu'r cyfeiriad e-bost.
Mae’r Neuadd yn Llanbedr wedi bod yn ganolfan bwysig i’r gymuned, ond er 2012, nid oedd yr adeilad yn cydymffurfio â safonau cyfoes. Roedd yn bryd felly i aelodau o’r gymuned gysylltu â’r Cynghorwyr i benderfynu dyfodol y ganolfan er lles yr holl drigolion. Dros gyfnod o bedair blynedd, roedd grŵp wedi dod at ei gilydd a pharatoi cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer neuadd newydd. Gofynnwyd i’r Loteri Genedlaethol am arian i gefnogi’r fenter, ond yn anffodus, ni fu’r cais yn llwyddiannus.
Penderfynwyd bod y cynllun arfaethedig yn rhy uchelgeisiol i ymateb gofynion y gymuned, ond os na symudid ymlaen, byddai'r neuadd yn anaddas at y defnydd roedd yn cael ei wneud ohoni ar y pryd, heb sôn am gynnig cyfleuster ar gyfer ymholiadau pellach.
Mae’r manylion isod yn dangos yr ymdrech a wnaed dros y ddwy flynedd:
2012
Ffurfiwyd grŵp i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Neuadd newydd i'r pentref.
Bwriad Neuadd Bentref Newydd
Roedd y pwyllgor, ers ei sefydlu’n gynnar yn 2012, wedi adolygu dewisiadau safle, gofynion defnyddwyr (presennol a dyfodol), faint o le oedd angen ynghyd â chostau neuadd bentref amlbwrpas newydd. Ar y pryd roedd yn penderfynu ar safle estynedig i’r neuadd, yn paratoi briff datblygu a chwilio am gyngor proffesiynol ar gyfer dyluniad amlinellol o’r adeilad. Yn fuan byddai ceisiadau am gefnogaeth ariannol yn cael eu paratoi.
Roedd gwybodaeth i’r gymuned yn cynnwys cylchlythyr i gartrefi a chyfarfod cymunedol pan oedd dyluniad amlinellol yn barod i’w ddangos.
Newyddion Ionawr 2013:
Roedd ceisiadau cyntaf am gymorth ariannol wedi’u cwblhau. Pan fyddai cynlluniau am Neuadd newydd yn cael eu datblygu, bydd angen pob cefnogaeth gan bobl yn y gymuned er mwyn cael yr adnoddau sy’n dderbyniol i ofynion y gwahanol ddefnyddwyr. Dyma gyfle i gymryd rhan yn y fenter trwy gynnig syniadau ac efallai ychydig sgiliau a fydd eu hangen yn y gwaith cymhleth o baratoi’r manylion.
Newyddion Ebrill - Roedd y pensaer wedi’i benodi i baratoi cynlluniau ar gyfer adeilad newydd ar safle estynedig ar leoliad y neuadd bresennol. Yr amcan oedd darparu adnoddau i’r holl gymuned, ac roedd cefnogaeth y gymuned yn hanfodol at ddatblygu’r adeilad delfrydol.
Er Medi 2012, rydym wedi:
- SICRHAU YMRWYMIAD CYNGOR GWYNEDD I WERTHU I NI RAN O’R CAE CHWARAE GER YR YSGOL.
- CAEL RHODDION GWERTHFAWR O ARIAN GAN Y PWYLLGOR GŴYL GWRW, CYNGOR CYMUNED LLANBEDR A MANTELL GWYNEDD.
- PARATOI BRIFF DATBLYGU MANWL.
- PENODI PENSAER SEF SELWYN JONES O PENSEL CYMUNEDOL I BARATOI CYNLLUNIAU A CHOSTAU O’R NEUADD NEWYDD.
- GWNEUD PARATOADAU AR GYFER CYFLWYNO CAIS AM GRANT LOTERI.
- RHOI CANOLFAN ARTRO AR Y FARCHNAD .
- cynnal cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus ym Mis Mehefin
Gorffennaf
yr oedd y cais amlinellol am gefnogaeth gan y loteri yn llwyddiannus ac yr oedd gennym wahoddiad i baratoi cais llawn.
Rhagfyr 2013 - Roedd y cais cynllunio ger bron Parc Cenedlaethol Eryri yn llwyddiannus.
Ionawr 2014 - Cais llawn at y Loteri Genedlaethol
Awst 2014 - Cais llawn y Loteri yn aflwyddiannus.
Ionawr 2015 - Cynllun newydd ar gyfer ymestyn a gwella'r adeilad presennol. Ceisiadau newydd at y Loteri Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Chwefror 2015 - Cais amlinellol y Loteri wedi'i dderbyn a gweithgaredd i baratoi cais llawn ar y gweill.
Mai 2015
Cynhaliwyd Arddangosfa ac ymgynghoriad parthed y cynlluniau newydd yn y Neuadd Bentref rhwng 12.00 a 19.00 ar ddydd Iau, 21Mai 2015
Rhagfyr 2015 Cais loteri yn llwyddiannus
2016 Roedd gwirfoddolwyr o'r Cyngor Cymuned a Chanolfan Gymdeithasol Llanbedr wedi gweithio'n galed i baratoi'r hen ffreutur ar y Maes Awyr am gyfnod dros dro ar gyfer gweithgareddau pan fyddai'r neuadd bentref yn cael ei hadnewyddu yn ystod yr haf a'r hydref, (yn cychwyn 1 Awst 2016).
Amcan y gwelliannau i’r Neuadd oedd darparu canolfan ar gyfer yr holl gymuned. Bydd pwyllgor newydd yn cael ei sefydlu i drefnu gweithgareddau a goruchwylio gofalu am y neuadd. Dyma gyfle gwych i nifer o bobl sy’n barod i gefnogi’r gymuned.
Hydref 2016 Adeiladwyr yn cychwyn y gwaith adnewyddu.
Mawrth 2017
Yr adeiladu yn dod i ben a chynlluniau at agor y neuadd ar y gweill.
Mai 2017
Y Neuadd mewn defnydd cyffrous heb unrhyw oedi, a chanmoliaeth brwd am y datblygiadau newydd!
Mae angen casglu arian tuag at gwblhau'r Neuadd.
Gweler manylion eraill ar dudalen cymuned