Your browser version is outdated. We recommend that you update your browser to the latest version.

Ym Mehefin 1992, cyhoeddwyd ‘Atgofion Teulu Artro’, a bwriedir dangos rhai o’r erthyglau o’r casgliad gwerthfawr hwn, pe gofynnid amdanynt. Dyma enghraifft wych:

 

Ychydig o ddyfyniadau allan o draethawd a ysgrifennwyd gan Gwilym Ardudwy yn 1907 dan y pennawd ‘Llanbedr 50 mlynedd yn ôl’

Llanbedr 1857

Cafodd Llanbedr ei enw oddi wrth eglwys y plwyf a gysegrwyd i Sant Pedr. Pentref bychan iawn oedd yn 1857 gydag ychydig o dai ar un ochr i’r afon a naw tŷ ar yr ochr arall. Yn y pedwar tŷ ar ddeg trigai tafarnwr, gof, crydd, gwneuthurwr clocsiau a dau deiliwr. Roedd y llythyrdy yn un o’r tai a godwyd gan y diweddar Robert Griffiths – tad Richard Griffiths. Roedd o’n anhepgor i bobl y pentref gyda’i gyfarwyddyd meddygol a chymdeithasol, ac edrychai llawer o’r trigolion arno fel eu meddyg.

Bendithiwyd y ddau deiliwr gyda’r un enw sef John Jones, ond i wahaniaethu rhyngddynt galwyd un yn John Jones cyfoethog a’r llall yn John Jones dlawd. Roedd y cyntaf yn Fedyddiwr pybyr, pybyr (stans), ac yn ardderchog am ymddiddan, ac roedd yr ail yn Fethodist ymroddedig gyda gwybodaeth eang o’r Beibl. Gellwch ddychmygu'r ymddiddan fyddai rhwng y ddwy bersonoliaeth gref yma. Teithiodd y ddau drwy’r ardal i gyd a chai ymwelwyr groeso i’w cartrefi.

Gruffydd Dafydd oedd y gof ac roedd yntau yn bersonoliaeth boblogaidd yn y pentref, yn ffraeth, yn siaradwr cyflym ac yn weithiwr caled. Daeth ei efail yn fan cyfarfod i’r pentrefwyr. Roedd ganddo ddawn arbennig i doddi copr ac efydd, a phan ofynnwyd am y dull cyfrinachol, ei ateb bob amser oedd, “Mae arnoch angen lapis calaminaris, machgen i !!”

Brawd iddo oedd Evan Dafydd y milfeddyg. Arferai ef gerdded milltiroedd o fferm i fferm i roi sylw i’r anifeiliaid afiach. Dywedir ei fod unwaith yn cerdded yn gyflym yn y Cwm ac i rywun ofyn iddo pam yr oedd mewn cymaint o frys, a’i ateb oedd, “Chlywsoch chi ddim bod y Ffrancwyr wedi glanio ym Mochras a bod pawb yn Llanbedr yn ffoi am eu bywyd,” ac aeth ef ymlaen i roi sylw i’r anifail gwael. Aeth y newydd drwy’r Cwm yn gyflym ac roedd y ffermwyr wedi arfogi eu hunain gyda phicffyrch a phladuriau i ddiogelu eu treftadaeth rhag eu gelyn dychmygol.

Y masnachwr gorau yn ddi-os, oedd y tafarnwr- gwyddai sut i drafod arian a phobl. Ei ddiddordeb arall oedd pwyso moch a gwlân a benthyca arian i’r cyfoethog a’r tlawd fel ei gilydd. Doedd dim banc yn agos i Lanbedr bryd hynny.

Evan Evans oedd y saer coed, dyn addysgedig allai wneud eich ewyllys a’ch arch!!!

Prif waith Llanbedr bryd hynny oedd cloddio llechi yn Nhyddyn Pandy. Gweithiai llawer o bobl yno a byddid yn allforio miloedd o lechi i Loegr ac i’r cyfandir, dros y môr o Bensarn a’r Bermo.

Roedd trafnidiaeth yn beth prin iawn bryd hynny. Deuai’r goets fawr a’r ceffylau drwy Lanbedr i Harlech yn ddyddiol ac aros yn Nhafarn Victoria i’r ceffylau gael diod o ddŵr, wrth gwrs. Byddent yn newid y ceffylau bob deng milltir. Anfonid y llythyrau hefyd gyda cherbyd a cheffyl, un ceffyl y tro hwn. Gadewid y bag llythyrau yn y swyddfa bost a galwai pobl yno am eu llythyrau. Gosodid rhestr yn y ffenestr i adael i bobl wybod os oedd llythyr iddynt.

Roedd porthladd Pensarn yn lle prysur iawn bryd hynny. Deuai pethau fel glo a nwyddau a chalch i Lanbedr gyda llongau masnach o Lerpwl. Gelwid y llongau ”The Hawk” a’r “Dart”. Y Capteiniaid oedd Thomas Jones o Bentre Canol Dyffryn a Lewis Jones, Coed Ystumgwern. Roeddent yn ddynion pwysig ac arferent ddiddori pobl gyda’u chwedlau am y môr. Aent ar eu llw iddynt weld morforynion yn cribo eu gwalltiau ac yn wincio arnynt.

Roedd Pensarn hefyd yn borthladd pysgota prysur iawn, a chychod o Aberystwyth, Ynys Manaw a Phwllheli yn pysgota yn y Bae. Enillai rhai dynion eu bywoliaeth wrth ail werthu pysgod yn Harlech, Llanbedr a Llanfair.

Arferai’r Cyngor Plwyf gyfarfod yn nhafarn Victoria a’r rheithor oedd y cadeirydd bob amser. Yma y cesglid y trethi a’r casglwr oedd Mr John Parry, Cypla, a arferai werthu moch am rot y pwys.

Ychydig iawn o ddiddordeb oedd gan y pentrefwyr mewn gwleidyddiaeth. Dim ond perchnogion oedd â hawl i bleidleisio, ac yn Geidwadol y pleidleisiant yn arferol. Roedd yno ychydig o Ryddfrydwyr. Un person amlwg oedd yn Rhyddfrydwr selog oedd Morys Gruffudd, Cystyllhen. Arferai ef wisgo fel tywysog – cot hir las a botymau efydd arni, plus-fours (trowsus dwyn afalau), esgidiau a byclau arnynt, ond rywfodd difethid ei ymddangosiad rhywsut gan y sudd tybaco a ddihangodd o gornel ei geg yn barhaus.

Roedd ysgol wladol yn Llanbedr bryd hynny. Y goruchwylwyr oedd y rheithor a warden yr Eglwys. Y prifathro oedd John Jones, dyn deallus ac athro da. Ni chaniateid i’r plant siarad Cymraeg ac os clywid un yn siarad Cymraeg, clymwyd darn o bren o gylch ei wddf. Rhoid hwn am wddf y nesaf a glywid yn siarad Cymraeg, a druan o’r un oedd yn ei gario ar ddiwedd y dydd – gelwid ef y “Welsh Not”.

Cyn adeiladu’r capeli, cynhelid ysgol Sul yn yr Ysgoldy a phregethid allan ym muarth Tafarndy Victoria. Unwaith yr adeiladwyd y capeli penodwyd Gweinidog a’r cyntaf oedd gweinidog Methodist, y Parch David Jones. Roedd Eglwys y Bedyddwyr yn llewyrchus hefyd bryd hynny. Cyfarfyddent yn gyson yng Nghefncymerau a’u gweinidog oedd y Parch William Evans. Tipyn yn wan oedd Eglwys y Wesleaid yn Llanbedr ond roedd ganddynt ddilynwyr selog yn cyfarfod yn Beser. Y rheithor bryd hynny oedd W Brown, dyn addfwyn, person a gerid, ac roedd ganddo air caredig am bawb. Arferai fyw yn Llanfair, oblegid fe ofalai am blwyf Llandanwg hefyd.