Mae Cyngor Cymuned Llanbedr yn cyfarfod yn fisol i drafod a phenderfynu ar faterion sy'n effeithio holl drigolion y pentref.
Ymysg y pynciau mae:
- Neuadd y Pentref
- y Cae Chwarae
- y Fynwent
- ffyrdd a llwybrau cyhoeddus
- ceisiadau cynllunio
- unrhyw fater sy'n codi trwy law cynghorydd
Mae'r elusen Canolfan Gymdeithasol Llanbedr yn goruchwylio materion y Neuadd Bentref a'r Cae chwarae.
Covid 19 Trefn ac asesiad risg (cyhoeddiad Medi 2020):
cyfarfod y Cyngor; cyffredinol; defnyddio'r Neuadd
Aelodau’r Cyngor Cymuned :
Gruffydd Price (Cadeirydd), Kevin Titley, Eirwyn Thomas (Is-gadeirydd), Helen Johns, Caroline Evans, Iolyn Jones, Robin Ward.
Aelodau Cyngor Cymuned Llanbedr
Enw Cyswllt Swydd neu Bwyllgor
Kevin Titley 01341 241632 Llywodraethwr Ysgol Gynradd Llanbedr,
Grŵp Huchenfeld, Gŵyl Gwrw, Canolfan Gymdeithasol
Robin Ward robin.llanbedrcommunitycouncil@gmail.com Gŵyl Gwrw,
Iolyn Jones 01341241391 HAL, Un Llais Cymru, Prosiect Llwybrau, Canolfan Gymdeithasol
Eirwyn Thomas 01341 241 301 Gŵyl Gwrw, Un Llais Cymru,Canolfan Gymdeithasol
Caroline Evans 01341241826 Gŵyl Gwrw, Prosiect Llwybrau ,Canolfan Gymdeithasol
Gruffydd Price 01341241224 Cadeirydd, Prosiect Llwybrau, Canolfan Gymdeithasol
Helen Johns 01341 241 617 Grŵp Huchenfeld, Canolfan Gymdeithasol
Clerc y Cyngor: Morfudd Lloyd - cyngorllanbedr@gmail.com
Morfudd Wyn Lloyd
Tyddyn Hendre
Llanbedr
Gwynedd
LL45 2PL
Rhif ffôn: 01341241 645
Cadeirydd: gruffyddprice@hotmail.com
Swyddogion cysylltiedig:
Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
Eirwyn Thomas (Golygydd y wefan): eirwyn@tyddynbach.co.uk
Rhestr o ddatganiadau buddiant mewn cyfarfodydd: 2018 - 2019 ; 2019 - 2020 2020-2021
addasiad Goronwy Davies
Rhestr Polisïau Cyngor Llanbedr
POLISI CYDRADDOLDEB
Mae Cyngor Cymuned Llanbedr yn cymryd camau positif i hyrwyddo a chaniatáu cydraddoldeb ymysg y Cynghorwyr a staff y Cyngor. Cyfrifoldeb Clerc y Cyngor yw gweithredu’r polisi. Fe fydd staff yn cael eu hapwyntio ar sail eu gallu yn unig ac ni fydd unrhyw sylw yn cael ei wneud o sefyllfa'r unigolyn, o ochr:-
(a) Rhyw
(b) Statws Priodasol
(c) Tueddiadau rhywiol
(ch) Lliw
(d) Cenedlaetholdeb
(dd) Oed
(e) Tueddiadau Politicaidd
(f) Crefydd
(ff) Anabledd.
Mae’r Cyngor Cymuned yn derbyn y canllawiau statudol cyfredol gydag unrhyw ddiwygiadau mewn grym sydd yn ei wneud yn anghyfreithlon i unrhyw gyflogwr drin yn wahanol unrhyw unigolyn ar sail (a) i (ff) uchod.
cysylltwch â: gruffyddprice@hotmail.com
Gwneud cais penodol am wybodaeth
Gwneud cais ar-lein neu ffonio’r Clerc gan roi eich enw a'ch cyfeiriad a dweud pa wybodaeth yr hoffech ei gweld.
- E-bost: cyngorllanbedr@gmail.com
- Ffôn: 01341 241645
Byddwn yn cydnabod eich cais cyn gynted ag y bo modd. Os nad ydym yn sicr pa wybodaeth yn union sydd gennych dan sylw, fe wnawn ni gysylltu efo chi i drafod eich gofynion.
Mae gennym hyd at 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad derbyn i ymateb. Os oes angen i ni gysylltu efo chi i gael eglurhad pellach, ni fydd yr 20 diwrnod yn cychwyn nes i ni gadarnhau yn union pa wybodaeth yr hoffech ei chael.
Os oes angen i ni ymestyn y cyfnod (er mwyn ystyried rhai eithriadau), fe wnawn ni roi gwybod i chi a’ch hysbysu o’r dyddiad ymateb diwygiedig.
Nid oes raid i ni ymateb i geisiadau niferus neu flinderus neu rai sydd y tu hwnt i’r trothwy cost (wele isod).Gallwn hefyd wrthod datgelu gwybodaeth os yw un o'r eithriadau a geir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol. Os ydym yn gwrthod eich cais, byddwn yn datgan pa eithriad yr ydym wedi ei ddefnyddio a phaham.
Os ydych yn gofyn am gael y wybodaeth mewn ffurf arbennig, neu am drefnu cyfarfod i weld y cofnodion sy’n cynnwys y wybodaeth, byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais os yw hynny’n rhesymol ymarferol.
A fyddech cystal â nodi ym mha ffurf yr hoffech dderbyn y wybodaeth wrth wneud eich cais.
Mae mwyafrif y ceisiadau yn rhad ac am ddim.
Fodd bynnag, os yw’n debygol o gymryd mwy na 2.5 diwrnod i ganfod, didoli a golygu dogfennau er mwyn ymateb i’ch cais (sef cost o £450 wedi ei gyfrifo ar £25 yr awr) yna nid oes raid i ni ateb.
Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais ac yn gofyn i chi ei addasu trwy, e.e. ofyn am lai o wybodaeth. Bwriad hyn yw ceisio dod â’ch cais o dan y trothwy cost. Os nad oes modd gwneud hyn yna mae’n bosib na fyddwn yn ateb y cais.
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ateb yna dylech gysylltu efo’r person sydd wedi eich ateb. Bydd ef/hi yn cynnal adolygiad mewnol trwy ailystyried eich cais a naill ai’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, yn ei wyrdroi neu yn ei wyrdroi’n rhannol.
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb yn dilyn hynny, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad allanol trwy gysylltu gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth . Bydd un o swyddogion y Comisiynydd wedyn yn ymdrin â’r adolygiad ar eich rhan.
Eithriadau
Fe gewch weld unrhyw wybodaeth gan y Cyngor, ond fe geir eithriadau ar gyfer gwybodaeth a ddylai fod yn gyfrinachol.
Cynhaliwyd Etholiadau Cyngor Cymuned ar 4 Mai 2017 (ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Cyngor Sir).
Mae'r Cyngor Cymuned wedi penderfynu cadw'r praesept ar gyfer 2019 yn gyfartal â'r swm o’r flwyddyn flaenorol.
Mae'r Cyngor Cymuned wedi penderfynu cynyddu'r praesept ar gyfer 2020.
cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Cymuned - Medi ; Hydref ;Tachwedd ;Rhagfyr 2012
2013
Ionawr ;Chwefror ;Mawrth ;Ebrill ;Mai ;Mehefin ;Gorffennaf ;Medi ; Hydref; Tachwedd ;Rhagfyr
2014
Ionawr ;Chwefror ;Mawrth ;Ebrill ;Mai ;Mehefin ;Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2015
Ionawr ;Chwefror ;Mawrth ;Ebrill ;Mai ;Mehefin ; Gorffennaf ;Awst ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2016
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; 10Mawrth ; Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2017
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2018
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2019
Ionawr , ceisiadau cynllunio ; Chwefror ; Mawrth ; Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2020
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2021
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Awst ; Medi - Dim Cyfarfod ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2022
AGENDÂU cyfarfodydd y Cyngor Cymuned
2016
Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr ;
2017
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2018
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth (gohiriwyd tan 8/03/18); Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2019
Chwefror ; Mawrth ; Ebrill ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Medi ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr ;
2020
Chwefror ; Mawrth ; gohiriwyd (covid-19)
2021
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; Ebril ; Mai ; Mehefin ; Gorffennaf ; Awst ; Hydref ; Tachwedd ; Rhagfyr
2022
Ionawr ; Chwefror ; Mawrth ; Ebrill ; Mai
Datganiadau cyfrifyddu 2018-19
Datganiadau cyfrifyddu 2019-20 ar gyfer Cyngor Cymuned Llanbedr
Datganiadau cyfrifyddu 2020-21
Ffurflen flynyddol Cwblhad archwiliad
Mae cofnodion yn Saesneg parthed y cais cynllunio i sefydlu mosg yng Nghapel Moriah . Gweler gwaelod y dudalen Community Council.