Your browser version is outdated. We recommend that you update your browser to the latest version.

 

 

 

 

 

 

Maes Awyr Llanbedr

Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill gogyfer â’r maes awyr.

  1. Clustnodwyd y safle ar gyfer Ardal Fenter gan Lywodraeth Cymru.
  2. Rhestrwyd y safle yn un o wyth sy’n bosib i’w datblygu i ddarparu Porth i’r Gofod yn y Deyrnas Unedig.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â thrafnidiaeth yn Llanbedr ac argymhellwyd ffordd osgoi i'r gorllewin o'r pentref.

 

Mae QinetiQ wedi cyhoeddi rhaglen o arbrofi awyrennau di-beilot:

http://www.qinetiq.com/media/news/releases/Pages/llanbedr-airfield-open-for-testing.aspx

Roedd dronau yn cael eu defnyddio i archwilio materion amgylcheddol yn Nhachwedd 2015

Canolfan Awyrofod Eryri, Maes Awyr Llanbedr, rhan o Ardal Fenter Eryri

Mae'r dechnoleg ddiweddaraf a gofod awyr nad oes ei debyg yn y DU yn helpu Canolfan Awyrofod Eryri i ffynnu. Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu Ardal Fenter Eryri'n ganolfan o ragoriaeth ryngwladol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o systemau awyrennau â chriw a di-griw.
 
Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn brysur i Ganolfan Awyrofod Eryri.  Mae technoleg arloesol, sy'n hollbwysig i dimau monitro'r amgylchedd a thimau sy'n atal llifogydd, wedi ei threialu yno diolch i'r amgylchedd gweithredu diogel ym Maes Awyr Llanbedr a'r 7,100km² o ofod awyr sydd wedi ei neilltuo iddo ac sy'n estyn allan dros Fae Ceredigion.
 
Mae cyfleusterau'r maes awyr yn ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer awyrennau di-griw fel rhan o'r amgylchedd Systemau Awyrennau Di-griw ehangach yng Nghymru ac mae Llanbedr hefyd yn geffyl blaen yn y ras i fod yn faes rocedi’r DU. Byddai maes rocedi yn darparu seilwaith ar gyfer y diwydiant awyrofod yn y DU - a gallai olygu yn y dyfodol y gallai awyrennau gofod sy'n cludo teithwyr a lloerennau bach gael eu lansio o redfa Llanbedr.
 
A hithau ym mherfeddion y Parc Cenedlaethol, mae Ardal Fenter Eryri yn ardal flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn gartref i ddau safle unigryw sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer busnesau ynni carbon isel, TGCh neu awyrofod - yn Llanbedr ac yn Nhrawsfynydd. Mae gan y ddau safle statws Ardal Haen 1 sy'n golygu bod rhai o lefelau uchaf o gymorth ariannol yn y DU ar gael.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Canolfan Awyrofod Eryri, Lee Paul: "Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi bod wrthi'n creu'r amgylchedd gweithredu addas, yn cwblhau'r cam buddsoddi cyntaf ac yn paratoi at y dyfodol. Mae'r safle eisoes wedi'i ddefnyddio i brofi awyrennau sifil a milwrol - ymgyrchoedd amrywiol o brosiectau gorfodi pysgodfeydd i gynnal ymarferion hyfforddi milwrol amlwladol yn cynnwys lluoedd Malaysia, Japan ac UDA.
 
"Rydym yn gobeithio y bydd datblygiadau newydd yn 2017 yn golygu y gall Llanbedr ddenu hyd yn oed fwy o fuddsoddiad. Rydym bellach yn gweithio gyda phartneriaid i roi pecyn buddsoddi at ei gilydd fel llety ar y safle, mynedfa well i'r safle a thrwyddedau i fagu mwy o hyder byth ymysg buddsoddwyr.
 
Mae'r maes awyr yn Llanbedr yn cynnig rhinweddau hen safle RAF ynghyd â chyfleusterau o'r radd flaenaf yn dilyn buddsoddiad sylweddol ac mae mwy ar y ffordd.
 
Aeth Lee Paul ymlaen i ddweud: "Eleni, mae'r safle hwn wedi'i ddefnyddio gan gyrff sifil ac amddiffyn ond mae'r ardal hefyd yn elwa ar y manteision economaidd mawr eu hangen a gaiff eu creu gan fusnesau sy’n symud iddi. Rydym yn rhoi cymorth i 15 o gwmnïau a 50 o swyddi ar y safle ac mae ein gwaith dadansoddi'n awgrymu y gallai'r safle helpu dros 100 o swyddi a rhoi hwb o ryw £4.2m i'r economi leol yn y cam buddsoddi nesaf. 
 
"Rydym yn torri tir newydd yma yn y maes awyr. Yn yr haf - torrwyd Record Byd Guinness ar ein safle am y car cyflymaf ar y tir sydd wedi’i reoli o bell. Rydym wedi meithrin cysylltiadau â phrifysgolion ymchwil a masnachol eu gogwydd fel Bangor, Aberystwyth a Manceinion sy’n arbenigo mewn meysydd fel TGCh, Gofod, Peirianneg Electronig a Systemau Awtonomaidd.

 

"Bydd profi a datblygu awyrennau di-griw, dronau sifil a helpu rhaglen hyfforddi amddiffyn milwrol y DU yn rhan o'r gweithgareddau craidd sydd wedi'u trefnu yma yn y dyfodol. Mae'r cyfleusterau sydd ar y gweill a'r amgylchedd unigryw yn golygu bod Llanbedr yn ddewis hawdd ar gyfer prosiectau arbennig ac yn ddelfrydol ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu a phrofi a gwerthuso.

 

"Diolch hefyd i dreial arloesol yn y DU gan EE eleni, rydym yn gwneud y gorau o'n Gwibgyswllt Band eang drwy gynnig 4G ar y safle gan sicrhau bod gwasanaeth o'r radd flaenaf ar gael i'n cwsmeriaid.

 

Ym mis Hydref, cafodd ymgyrch filwrol ryngwladol ei chynnal yn Llanbedr.  Fel rhan o ymarfer “Vambrace Warrior” ymunodd unedau amlwladol o Malaysia, Japan, Iwerddon a byddin a môr-filwyr UDA â Byddin Prydain ar gyfer ymarfer hyfforddi arbennig. Esboniodd llefarydd dros Fyddin Prydain: "Rhoddodd yr ymarfer gyfle i ni ddatblygu ein rôl weithredu gan gynnwys patrolau dwys a sgiliau arsylwi uwch. Daeth unedau amddiffyn awyr Prydain i ymuno â ni ac o ganlyniad hwn oedd yr ymarfer awyr mwyaf yn y DU ers 2003.  Roedd yr ymarfer yn llwyddiant ysgubol diolch i'r amgylchedd unigryw a'r cyfleusterau heb eu hail yng Nghanolfan Awyrofod Eryri.
 
Dywedodd Jeremy Howitt, Rheolwr Ymgyrchoedd UAS ar gyfer y cwmni technoleg amddiffyn QinetiQ: “Mae Cymru’n cynnig yr amgylchedd perffaith i ddatblygu, profi a hyfforddi’r dyfeisiau arloesol diweddaraf ym maes awyrofod. Mae’r cyfleusterau arloesol yng Nghanolfan Awyrofod Eryri yn ddelfrydol ar gyfer pob math o weithgareddau awyrennau â chriw, rhai di-griw ac awyrennau gofod. Rydym yn llawn cyffro am y potensial i ddefnyddio awyrennau di-griw yn fasnachol ac am y manteision economaidd ac amgylcheddol mae’r dechnoleg newydd hon yn gallu eu cyflwyno i Gymru a’r DU.”

 

Gan edrych ymlaen at 2017, cyfeiriodd Lee Paul at bwysigrwydd buddsoddiad parhaus a gweithio gyda'r gymuned. Ychwanegodd: "Rydym yn gwybod bod traffig yn gallu bod yn drafferthus ym mhentref Llanbedr ar brydiau a dyna pam ein bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd. Bydd sicrhau mynediad gwell i'r safle a'n cynlluniau datblygu yn y dyfodol yn siŵr o fagu hyder buddsoddwyr posib yn Llanbedr.
 
"Rydym yn creu cyfleuster o'r radd flaenaf. Mae adnewyddu'r Hangar Awyrennau a'r system cyflenwi tanwydd newydd yn ddiweddar wedi bod yn rhan bwysig o greu hynny. Mae cyfleusterau'r safle wedi creu argraff fawr ar y sawl sydd wedi'u defnyddio. Rydym am helpu defnyddwyr y dyfodol ac felly rydym hefyd yn datblygu llety ar gyfer y rheini sy'n rhedeg ymgyrchoedd profi. Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ardal yn gallu elwa cymaint â phosib. Fel rhan o'n hymrwymiad, mae Canolfan Awyrofod Eryri wedi rhoi adeilad i Gyngor Cymuned Llanbedr ar y safle er mwyn i grwpiau lleol allu parhau i weithredu tra bod eu cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu yn y pentref."

 

Blaenoriaeth bwrdd Ardal Fenter Eryri, sydd dan arweiniad y sector preifat, erbyn hyn yw creu cyfleoedd swyddi cynaliadwy a hirdymor ym Meirionnydd ac ar safle Llanbedr, ac am ledaenu'r neges yn fyd-eang am y cyfleoedd unigryw sydd ar gael yng Nghanolfan Awyrofod Eryri. Dyma beth oedd gan Gadeirydd Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Eryri i'w ddweud: "Rydym yn gwybod bod Meirionnydd yn wynebu her ar hyn o bryd. Nid yw'r sector preifat yn buddsoddi yno ryw lawer ac mae swyddi datgomisiynu wedi'u colli yn Nhrawsfynydd. Mae potensial gan Ganolfan Awyrofod Eryri i gynnig swyddi cynaliadwy sy'n talu'n dda ac mae partneriaid cyhoeddus a phreifat yn cyd-dynnu i achub ar y cyfle. Ers cychwyn yr ardaloedd menter yn 2012/13, bu buddsoddi mawr mewn ffyrdd, safleoedd datblygu, swyddfeydd ac unedau gweithgynhyrchu drwy Gymru.

"Mae buddsoddi yn Ardal Fenter Eryri yn helpu i ddatblygu sgiliau, capasiti ymchwil a datblygu gyda nod yn yr hirdymor o greu a diogelu swyddi newydd yn yr ardal."

Yn ôl y Prif Weithredwr, Lee Paul, mae Llanbedr yn y sefyllfa orau i helpu lluoedd Amddiffyn y DU drwy'r newidiadau mawr sy'n mynd rhagddynt. I gloi, dywedodd: "O ystyried y cyhoeddiadau diweddar i leihau nifer y daliadau tir sydd gan yr MOD ledled y wlad a chau sawl safle, gan gynnwys nifer o feysydd awyr a gwersylloedd hyfforddi, rydym yn cynnig ateb costeffeithiol i helpu'r diwydiant Amddiffyn a'i ofynion hyfforddi parhaus."

 

 


 

Cyfeillion Coedlannau Llanbedr

 

 

 

Grŵp Gwirfoddol cymunedol ydy Cyfeillion Coedlannau Llanbedr sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella a chynnal y coedlannau o amgylch Llanbedr. Maen nhw’n cyfarfod ym misoedd y gaeaf  i dacluso llecynnau o ordyfiant er mwyn hwyluso gwell amrywiaeth o fywyd gwyllt yn cynnwys adar, anifeiliaid, blodau a phryfaid. Maen nhw’n cadw golwg ar lwybrau fel bod y goedwig yn adnodd llesol i bobl leol i’w werthfawrogi a mwynhau hyd at y dyfodol.

 Mae’r coedlannau yn cynnwys Coed Hafod y Bryn, Coed Garth Goch (Aberartro), Coed Llety Walter a gwarchodfa natur Crafnant. Mae’r grŵp yn gweithio efo tirfeddianwyr, Parc Cenedlaethol Eryri, Coed Cadw a’r Ymddiriedolaeth Natur er mwyn gwella’r statws ecolegol o’r coedlannau hyn.

Maen nhw’n cynnal cyrsiau’n aml i ddysgu sgiliau coedwigaeth, yn llawn yswiriedig, yn gwneud archwiliadau ac yn dymuno hybu pobl o bob oedran i gymryd rhan yn eu gweithgareddau. Maen nhw’n aelodau o Lais y Goedwig ac yn cael eu cefnogi gan gronfa wirfoddol Cyngor Sir Gwynedd, cronfa CAE Parc Cenedlaethol Eryri a chronfa’r Loteri fawr. Yn eu cefnogi mae’r cynghorydd Annwen Hughes, a Rob Booth o’r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Cynhaliwyd prynhawn agored ar 17 Ebrill yng Nghoed Hafod y Bryn. Os ydych yn diddori mewn ymuno â’r grŵp neu wybod mwy am ofalu am goedlannau, ffoniwch 01341 241460. 

 

Sul, Ebrill 17eg   2-4.30 pm

Coed Hafod y Bryn, Llanbedr

Diwrnod Agored Hwyl y Goedwig

 

Prynhawn o hwyl i’r teulu efo crefftau coed, chwaraeon, bocsys adar ac ystlumod i’w gwneud a’u prynu, paentio wynebau, cacennau i’w bwyta, planhigion i’r ardd, anrhegion, cystadlaethau a cherdded efo arweinydd

 

Roedd mynediad am ddim a bydd arian a gesglid yn mynd at wella natur

 

Ymweliad  Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC â choedlan yn Llanbedr   23ain o Fedi 2016

 

Treuliodd Dafydd Elis-Thomas brynhawn difyr a llawn gwybodaeth wrth ymweld â choed Hafod-y-bryn yn Llanbedr. Yn ddiweddar, cytunodd i gefnogi gweithgareddau amgylcheddol Cyfeillion Coedlannau Llanbedr yn yr ardal. Yng nghwmni’r Cynghorydd Annwen Hughes a Rob Booth o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fe’i croesawyd gan Jacqueline Gilleland, prif weithredwr y fenter. Yn ystod ei ymweliad, cymerodd ran mewn gosod bocs nythu efo plant Ysgol Llanbedr. Yn gynharach yn y tymor, roedd y plant wedi bod yn brysur yn gwneud bocsys adar dan arweiniad Lee Oliver o Cadwch Gymru’n Daclus. Wedyn, aed ymlaen i grwydro’r goedlan a chyfarfod aelodau’r grŵp yn archwilio planhigion er mwyn cofnodi’r rhywogaethau presennol.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Parhawyd efo arddangosiad o dechneg codi bwlch mewn wal gerrig, sgwrs am waith Llais y Goedwig efo Sara Wynn-Pari a chloi gyda diod o ffrwyth y goedwig a chacennau blasus a baratowyd gan Carol Endacott.

Yng nghwmni Goronwy Davies, Cadeirydd y Cyngor Cymuned, dangoswyd crefftwaith arbennig a saernïwyd mewn coed gan Gari Lewis.

 

 

 

 

 

Yn ychwanegol i hyn, dangoswyd cynlluniau o lwybrau arfaethedig i greu rhwydwaith o deithiau drwy’r coed, yn cynnwys Coedlannau Garth Goch, Llety, Crafnant a Hafod-y-bryn. Mae hyn mewn cydweithrediad â Peter Rutherford o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

  ________________________________________________________________________________________________________

Neuadd Newydd

Mae’r Neuadd yn Llanbedr wedi bod yn ganolfan bwysig i’r gymuned, ond erbyn hyn, nid yw’r adeilad yn cydymffurfio â safonau cyfoes. Mae’n bryd felly i aelodau o’r gymuned gysylltu â’r Cynghorwyr i benderfynu dyfodol y ganolfan er lles yr holl drigolion. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae grŵp wedi dod at ei gilydd a pharatoi cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer neuadd newydd. Gofynnwyd i’r Loteri Genedlaethol am arian i gefnogi’r fenter, ond yn anffodus, ni fu’r cais yn llwyddiannus.

Penderfynwyd bod y cynllun arfaethedig yn rhy uchelgeisiol i ymateb gofynion y gymuned, ond os na symudwn ymlaen, bydd y neuadd bresennol yn anaddas at y defnydd sy’n cael ei wneud ohoni ar hyn o bryd, heb sôn am gynnig cyfleuster ar gyfer ymholiadau pellach.

Cysylltwch â post@llanbedr.com yn syth i wneud yn siŵr bod eich gofynion yn cael sylw.

Mae’r manylion isod yn dangos yr ymdrech a wnaed dros y ddwy flynedd:    

2012

Ffurfiwyd grŵp i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Neuadd newydd i'r pentref.                                                                                                                                  

Bwriad Neuadd Bentref Newydd

Roedd y pwyllgor, ers ei sefydlu’n gynnar yn 2012, wedi adolygu dewisiadau safle, gofynion defnyddwyr (presennol a dyfodol), faint o le oedd angen ynghyd â chostau neuadd bentref amlbwrpas newydd. Ar y pryd roedd yn penderfynu ar safle estynedig i’r neuadd, yn paratoi briff datblygu a chwilio am gyngor proffesiynol ar gyfer dyluniad amlinellol o’r adeilad. Yn fuan byddai ceisiadau am gefnogaeth ariannol yn cael eu paratoi.

                                                                                                                                          

Roedd gwybodaeth i’r gymuned yn cynnwys cylchlythyr i gartrefi a chyfarfod cymunedol pan oedd dyluniad amlinellol yn barod i’w ddangos.

Newyddion Ionawr 2013:

Roedd ceisiadau cyntaf am gymorth ariannol wedi’u cwblhau. Pan fyddai cynlluniau am Neuadd newydd yn cael eu datblygu, bydd angen pob cefnogaeth gan bobl yn y gymuned er mwyn cael yr adnoddau sy’n dderbyniol i ofynion y gwahanol ddefnyddwyr. Dyma gyfle ii gymryd rhan yn y fenter trwy gynnig syniadau ac efallai ychydig sgiliau a fydd eu hangen yn y gwaith cymhleth o baratoi’r manylion. 

Newyddion Ebrill  - Roedd y pensaer wedi’i benodi i baratoi cynlluniau ar gyfer adeilad newydd ar safle estynedig ar leoliad y neuadd bresennol. Yr amcan oedd darparu adnoddau i’r holl gymuned, ac roedd cefnogaeth y gymuned yn hanfodol at ddatblygu’r adeilad delfrydol. 

Mehefin - Dyma argraff o'r cynllun amlinellol

 

Er Medi 2012, rydym wedi:

- SICRHAU YMRWYMIAD CYNGOR GWYNEDD I WERTHU I NI RAN O’R CAE CHWARAE GER YR YSGOL.

- CAEL RHODDION GWERTHFAWR O ARIAN GAN Y PWYLLGOR GŴYL GWRW, CYNGOR CYMUNED LLANBEDR A MANTELL GWYNEDD.

- PARATOI BRIFF DATBLYGU MANWL.

- PENODI PENSAER SEF SELWYN JONES O PENSEL CYMUNEDOL I BARATOI CYNLLUNIAU A CHOSTAU O’R NEUADD NEWYDD.

- GWNEUD PARATOADAU AR GYFER CYFLWYNO CAIS AM GRANT LOTERI.

- RHOI CANOLFAN ARTRO AR Y FARCHNAD .

- cynnal cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus ym Mis Mehefin

Gorffennaf  

yr oedd y cais amlinellol am gefnogaeth gan y loteri yn llwyddiannus ac yr oedd gennym wahoddiad i baratoi cais llawn.

Rhagfyr 2013 - Roedd y cais cynllunio ger bron Parc Cenedlaethol Eryri yn llwyddiannus.

Ionawr 2014 - Cais llawn at y Loteri Genedlaethol

Awst 2014 - Cais llawn y Loteri yn aflwyddiannus.

 

Ionawr 2015 - Cynllun newydd ar gyfer ymestyn a gwella'r adeilad presennol. Ceisiadau newydd at y Loteri Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Chwefror 2015 - Cais amlinellol y Loteri wedi'i dderbyn a gweithgaredd i baratoi cais llawn ar y gweill.

 


 Mai 2015

Cynhaliwyd Arddangosfa ac ymgynghoriad parthed y cynlluniau newydd yn y Neuadd Bentref rhwng 12.00 a 19.00 ar ddydd Iau, 21Mai 2015

 

 

 

 

 

 

 

Rhagfyr 2015  Cais loteri yn llwyddiannus

2016 Mae gwirfoddolwyr o'r Cyngor Cymuned a Chanolfan Gymdeithasol Llanbedr wedi gweithio'n galed i baratoi'r hen ffreutur ar y Maes Awyr am gyfnod dros dro ar gyfer gweithgareddau pan fydd y neuadd bentref yn cael ei hadnewyddu yn ystod yr haf a'r hydref, (yn cychwyn 1 Awst 2016).

 

Amcan y gwelliannau i’r Neuadd yw darparu canolfan ar gyfer yr holl gymuned. Bydd pwyllgor newydd yn cael ei sefydlu i drefnu gweithgareddau a goruchwylio gofalu am y neuadd. Dyma gyfle gwych i nifer o bobl sy’n barod i gefnogi’r gymuned. Cysylltwch â post@llanbedr.com i ddangos eich diddordeb a chynnig syniadau.  

 

Hydref 2016  Adeiladwyr yn cychwyn y gwaith adnewyddu.

_________________________________________________________________________________________________________

Côr Meibion Ardudwy

 Mae Côr Meibion Ardudwy wedi bod yn rhan annatod o gymdeithas Llanbedr am 60 o flynyddoedd,

a defnyddiwyd y Neuadd yn ganolfan ymarfer yn rheolaidd ar hyd yr amser.

 

www.cormeibionardudwy.co.uk/indexs.html

 

 

 

 

 

 

 http://www.youtube.com/watch?v=VcMZNSOZLgk

Bu Band Acordion Huchenfeld yn ymweld â’r ardal yn ystod yr wythnos 20-26 Mai 2013 . Cafwyd gwledd o gerddoriaeth gan y Band Acordion ar y cyd â Chôr Meibion Ardudwy.

 

 

 

 

 

Teithiodd y Côr i Estonia rhwng 28 Hydref a 4 Tachwedd 2013, a pherfformiwyd cyngherddau yn Tallinn a Pärnu.

__________________________________________________________________________________________________________

Cymdeithas Cwm Nantcol

 

 

Cyhoeddir rhaglen newydd  yn yr Hydref

 

Ysgrifennydd / Trysorydd:

Evie M Jones

Ffôn 01341 247022