Mae hyd at naw plwyf yng Nghymru yn dwyn yr enw Llanbedr. Mae Llanbedr yn Ardudwy yn sefyll ar geulan yr afon Artro yn agos i draethau Abermaw a Harlech. Dyma le o brydferthwch mawr, yn cael ei gysgodi gan goed ac mae’r afon Artro yn cychwyn yng Nghwm Bychan, sy’n le nodedig am olygfa ramantus, clogwyni crib uchel a chreigiau danheddog y Rhinogydd sy’n ei gylchynu.
Mae tarddiad arall i’r afon yng Nghwm Nantcol, a disgynna’r dŵr mawnog dros raeadr odidog cyn ymuno â’r llif nid nepell o Gapel Salem, a wnaed yn enwog mewn darlun gan S.C. Vosper. Islaw, mae Pentre’ Gwynfryn, yn glwstwr del o dai, a choedwigoedd cynhenid gerllaw a gweirgloddiau yn ymwthio tua’r dorlan.
Wedi cyrraedd Llanbedr, llifa’r afon yn ei hysblander dan bont y pentref cyn tasgu’n chwim tuag at Mochras a lledaenu i aber o brydferthwch hynod ger Pensarn a Llandanwg.
Mae hanes diddorol yn perthyn i’r ardal. Fe welir olion yr oesoedd cynnar mewn nifer o feini a chromlechi ar gyrion hen lwybrau sy’n ymestyn o’r môr i’r mynyddoedd. Mae nifer o gaerau a chlystyrau o dai crynion o’r oesoedd haearn yn y mynyddoedd, ac yn yr eglwys mae carreg hynafol wedi’i naddu ar ffurf troell.
Ond hen chwedlau o’r oesoedd tywyll sy’n tanio’r dychymyg. Dywedir bod y bardd Taliesin yn gysylltiedig â’r ardal, a chyfeirir ato mewn chwedl am Gwyddno Garanhir a deyrnasodd dros Gantre’r Gwaelod, a’i fab Elffin a ddarganfu faban yng nghored bysgod, a’i enwi ar ôl Taliesin. Yn hyn o beth, crëwyd magwrfa i lu o straeon sy’n ymwneud â’r Mabinogion.